DIM OND I’W LENWI GAN RIENI SYDD YN WEITHWYR GOFAL IECHYD NEU YN GWEITHIO I’R GWASANAETHAU GOLAU GLAS (rhiant sengl neu deulu ble mae’r ddau riant yn gweithio yn y ddau faes yma):
Rydym yn cynnig y ddarpariaeth ofal plant argyfwng dros benwythnosau, gan ddechrau ar benwythnos y 11eg a’r 12fed o Ebrill (penwythnos y Pasg). Os ydych yn rhagweld y byddwch yn gorfod defnyddio’r gwasanaeth yma, llenwch yr holiadur yma: https://bit.ly/GwarchodPenwythnos-WeekendChildcare erbyn 09:00 ar ddydd Gwener yr 17eg o Ebrill. Ni fydd y penwythnosau ar gael i bob categori o weithwyr critigol.