Ni fydd talebau i’w defnyddio mewn archfarchnadoedd yn cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru, fel sydd wedi ei grybwyll fel posibilrwydd. Yn hytrach, mae disgwyl i bob Awdurdod Lleol ddarparu system lleol.
O ddydd Llun y 27/04/20, byddwn yn darparu pecyn bwyd wythnos (fydd yn cynnwys bwyd y gallwch chi baratoi ar gyfer cinio pob dydd e.e. torth o fara, tin o diwna, ham, caws, creision, bisgedi ayb…) i bob disgybl sydd yn deilwng i BYD.
Rydym yn cynnig dosbarthu rhain ar ddydd Llun pob wythnos. Os ydych am dderbyn pecyn bwyd wythnos, yna llenwch yr holiadur yma ar gyfer pob plentyn o Fryn Tawe rydych am wneud cais: https://bit.ly/DosbPYD-FSMSdelivery.
Os ydych yn barod yn derbyn pecynnau gennym, nid oes angen i chi lenwi’r holiadur eto.