Diolch i bob un o’n rieni sydd wrthi yn brysur yn cefnogi ein disgyblion i allu barhau i ddysgu, o dan amodau heriol tu hwnt. Rydym ni i gyd yn dysgu beth sydd yn gweithio a ddim yn gweithio, (yn gyflym iawn!) o’r profiad yma. Gweler rhai adnoddau isod a allai fod o gymorth i chi a’ch plant:
Rydym wedi cynhyrchu cyfres o ‘gwestiynau cyffredin’ y mae rhieni wedi cysylltu gyda ni i’w gofyn. Rydym wedi cynnig datrysiadau neu esboniadau pellach: Cwestiynau cyffredin – rhieni
Dyma fideo yn cynnig cyfarwyddiadau i ddefnyddio Teams (bydd mwy o ffilmiau i ddilyn): https://youtu.be/9mHy5OqBFfg
Er mwyn cefnogi gyda rheolaeth amser, ers y Pasg, mae amserlen gosod gwaith yn ei le – gweler yma: Amserlen cyhoeddi gwaith CA3 & CA4
Dyma gyngor defnyddiol iawn i ddisgyblion a rieni ar ddysgu o bell: Cyngor Dysgu o bell
Os ydych yn cael trafferth yn lawrlwytho Microsoft Office 365, gweler y llythyr yma: Llythyr Office 365 Rhieni
Cysylltwch gyda athro pwnc eich plentyn os yw eich plentyn yn cael trafferth gyda darnau o waith penodol – gweler rhestr e-byst y staff i gyd yma: E-byst staff 2019-2020
Mae’r wybodaeth yma eisoes wedi ei lan-lwytho i SMHW.