AIL AGOR AR Y 29ain o FEHEFIN


Fel y gwyddoch yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog Addysg a Sgiliau ddydd Mercher, mae’n fwriad i ni ail agor i ddisgyblion ar y 29ain o Fehefin. Bydd pob disgybl yn cael y cyfle i fynychu er mwyn dod i’r ysgol i gwrdd â’u hathrawon a rhai o’u cyd-ddisgyblion, i ddal i fyny ac i barhau i ddysgu ac i baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.

Yn naturiol, mae’n gyfnod pryderus ac ansicr i bob un ohonom. Fel y gallwch ddychmygu, mi fydd profiad ysgol eich plant yn wahanol yn ystod y cyfnod digynsail yma, ond ga i’ch sicrhau y byddwn yn blaenoriaethu iechyd a diogelwch eich plant a staff yr ysgol.

Rydym wrthi yn paratoi yn drylwyr ac yn cynllunio’n ofalus fel y gall ein disgyblion ddychwelyd i amgylchedd diogel a chroesawgar.

Byddwn yn cysylltu gyda chi dros yr wythnosau nesaf gyda manylion pendant a chlir ar gyfer ail agor Bryn Tawe. Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiwn, yna cysylltwch gyda ni yn yr ysgol neu drwy ein e-bost arferol.

Yn dilyn y cyhoeddiad, mae Mr Nick Williams, Cyfarwyddwr Addysg Dinas a Sir Abertawe wedi ysgrifennu at holl rieni’r awdurdod – gweler ei lythyr yma.

A fyddai modd i bob rhiant lenwi’r holiadur isod gan yr Awdurdod Lleol erbyn y 10fed o Fehefin, fan pellaf? Bydd hwn yn allweddol yn ein cefnogi wrth gynllunio i ail agor.

HOLIADUR RHIENI ALl ABERTAWE (Cymraeg)

,