HOLIADUR AIL AGOR:
Gan nad oes rhai rhieni wedi llwyddo i lenwi’r holiadur ail agor wythnos diwethaf, rydym wedi ail agor yr holiadur heddiw. Byddwn yn ei gau am 12:00 ddydd Mawrth 23/06/20. Mae hyn er mwyn rhoi amser i ni baratoi ein grwpiau dysgu a’n ystafelloedd yn gywir ar gyfer agor wythnos nesaf.
Mae angen i rieni ddarllen y ddogfennaeth isod cyn mynd ati i gwblhau’r holiadur dychwelyd:
Gweler y llythyr yma am fanylion dychwelyd i’ch plentyn.
Gweler y trefniadau dyddiol ymarferol yma.
Wedi darllen y ddogfennaeth uchod, mae angen i BOB RIANT, SYDD DDIM WEDI, lenwi’r holiadur ail agor yma erbyn 12:00 ar ddydd Mawrth 23/06/20.
GWARCHOD ARGYFWNG:
Fel y gwyddoch, byddwn yn parhau i gynnig gwarchod argyfwng rhwng y 29/06/20 a diwedd y tymor. Mae rhai newidiadau pwysig mae angen i chi ystyried – a wnewch chi ddarllen y llythyr yma am fanylion llawn o’r newidiadau yma, cyn cwblhau’r holiadur isod.
Holiadur gwarchod argyfwng rhwng 29/06/20 – diwedd y tymor.