SEREMONI FFARWELIO BL.11


GWAHODDIAD BLWYDDYN 11 – Seremoni Ffarwelio

Hoffwn eich gwahodd chi, flwyddyn 11, i seremoni ffarwelio ar TEAMS ar ddydd Gwener 17eg o Orffennaf (dydd Gwener yma!).

Oherwydd y sefyllfa ddigynsail, nid ydym wedi cael cyfle i ffarwelio gyda chi’n ffurfiol eto eleni ac, er eich bod chi wedi gorffen gyda ni yn barod, hoffwn gymryd y cyfle i ffarwelio’n fwy ffurfiol cyn diwedd y flwyddyn academaidd.

Er mwyn ymuno bydd angen mewngofnodi  i HWB, mynd mewn i’ch ap TEAMS, edrych trwy eich calendr ac wedyn ymuno gyda’r ‘cyfarfod’ bydd wedi’i drefnu ar gyfer ein tîm ‘Blwyddyn 11 Bugeiliol’. Byddwn yn dechrau am 2 o’r gloch y prynhawn ac wedi gorffen o fewn rhyw 45 munud. Cofiwch mewngofnodi 10 munud yn gynnar er mwyn osgoi problemau technegol yn amharu arnoch chi’n gallu ymuno mewn!

Tra ein bod ni yn brysur yn trefnu ar ein hochr ni, gofynnwn yn garedig eich bod chi yn dilyn y linc (https://flipgrid.com/seremoniffarwelio) i ‘flipgrid’, ble gallwch chi adael neges neu atgof hapus i weddill disgyblion y flwyddyn gael gwylio. Bydd angen bod eich clip fideo yn y Gymraeg ac yn ddim mwy na 2 funud o hyd.

Os hoffai unrhyw un helpu finnau gyda threfniadau plîs cysylltwch gyda fi trwy e-bost (Toot-EvanN@hwbcymru.net) ac fe wna i roi rôl i chi. Neu, os oes gyda chi luniau ohonoch chi a’ch criw ffrindiau gallwch ddanfon rhain ataf ac fe wna eu coladu i mewn i fideo i chi gyd i weld a mwynhau.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi ar ddydd Gwener – lledaenwch y neges fel bod cymaint â phosib yn gallu ymuno!

Diolch,

Mrs Tootill-Evans

,