CANLYNIADAU SAFON UWCH AC UG


Newyddion da:

Braf yw rhannu cyhoeddiad y Gweinidog Addysg brynhawn yma https://llyw.cymru/datganiad-gan-kirsty-williams-y-gweinidog-addysg yn cadarnhau bydd pob disgybl bl. 12 a 13eg nawr yn derbyn  y ‘radd ag aseswyd gan y ganolfan’.

Fel y gwyddoch, gradd asesiad y ganolfan oedd barn broffesiynol yr ysgol o’r radd fwyaf tebygol y byddai myfyriwr wedi’i chael pe bai’r arholiadau wedi mynd ymlaen. Roedd yn seiliedig ar ystyriaeth ofalus o ystod o dystiolaeth gan gynnwys ffug arholiadau, asesiad di-arholiad ac unrhyw gofnod arall o berfformiad myfyrwyr dros y cwrs astudio. Roedd pob pwnc yn ystyried ystod addas o dystiolaeth ar gyfer eu cwrs. Cafodd bob gradd a threfn restrol eu gwirio a’u llofnodi’n fewnol gan ddau athro, eu gwirio gan yr UDA cyn eu cyflwyno i’r byrddau arholi yn derfynol gan y Pennaeth ar gyfer eu dyddiad cau ym mis Mehefin.

Rydym yn aros am wybodaeth pellach o sut y bydd y graddau yn cael eu rhannu’n swyddogol gyda’r disgyblion a chyn gynted y byddwn yn gwybod, byddwn eu rhannu gyda pob un o’n disgyblion drwy e-bost.

Cadwch lygaid ar ein safwe, ein cyfrif Trdyar, ar SMHW ac unrhyw negeseuon destun gyda gwybodaeth pellach.

, ,