Newyddion Adran y Gymraeg Bryn Tawe


Dathlwyd diwrnod coffa T.Llew Jones yn ôl ein harfer, gyda disgyblion o flwyddyn 12 yn recordio gwasanaeth o flaen llaw i ddisgyblion yr ysgol yn rhoi ei hanes. Hefyd, rhoddwyd y cyfle i flwyddyn 7 gwblhau tasg gwaith cartref amdano. Rhannwyd cynnyrch blwyddyn 7 ar drydar yr ysgol a gellir gweld y gwaith ar y linc yma. https://sway.office.com/FaUyHVpzm44cBmCS?ref=Link  

Cafodd holl ddisgyblion bl.7 i 10 bleser yn gwylio Miss Clarke ar y rhaglen ‘Am dro’ ar S4/C. Aeth pawb ati’n frwd i ysgrifennu adolygiadau o’r rhaglen a gellir gweld rhai enghreifftiau yma. Mae’n amlwg fod nifer o’r disgyblion yn teimlo y dylai Miss Clarke fod wedi ennill! https://sway.office.com/AAuAUay1dZWVf0dp?ref=Link  

Er mwyn dathlu Diwrnod Shwdmae Sut’mae paratowyd fideo i gynorthwyo rhieni a ffrindiau’r ysgol i ddysgu Cymraeg. Ffilmiwyd pob dosbarth yn eu tro yn dysgu llinell o Gymraeg. Dyma gyfle i chi weld y ffilm: https://youtu.be/_3nK4IV7sEE 

Cafodd bl.12 gyfle i gael sgwrs gyda Mererid Hopwood yn rhithiol yn ddiweddar. Soniodd Mererid am Waldo gan fod y disgyblion newydd ddechrau astudio un o’i gerddi a thrafodwyd manteision astudio Cymraeg Safon Uwch yn gyffredinol. Fe fyddem fel arfer yn mynd â’n Chweched ar daith o gwmpas Cymru yr adeg yma o’r flwyddyn gan fwynhau sgwrs wyneb yn wyneb â Mererid, ond yn sicr, roedd y sgwrs rhithiol yn damaid i aros pryd rywbryd eto gobeithio.