Eich Gwasanaeth Cerdd – Arolwg Rhieni/Gofalwyr i Helpu Ni i Gynllunio


Mae’r Gyfarwyddiaeth Addysg yn dechrau cynllunio sut y bydd y gwasanaeth cerdd yn Abertawe yn edrych yn y dyfodol. Gyda hynny mewn golwg, byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau arolwg byr i’n helpu i gynllunio gwasanaeth cerddoriaeth yn seiliedig ar adborth gan rieni/gofalwyr.  Byddem yn ddiolchgar pe gallai rhieni/gofalwyr gwblhau’r arolwg p’un a yw eu hysgol yn y cytundeb lefel gwasanaeth ai peidio.  Gellir gweld yr arolwg drwy’r ddolen isod.  Bydd ymatebion yn cael eu trin yn gyfrinachol.  Cwblhewch yr arolwg erbyn diwedd dydd Llun, 30 Tachwedd. Noder nad ymgynghoriad yw hwn ond yn hytrach ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau i’n helpu i gynllunio opsiynau y gallai fod angen i ni ymgynghori â chi eto arnynt.

Rhieni/Gofalwyr: Eich Gwasanaeth Cerdd – Helpwch Ni i Gynllunio