Newyddion diweddar Adran y Gymraeg


Roedd y chweched sy’n astudio Cymraeg Safon Uwch wrth eu boddau yn ddiweddar yn cael cwmni Caryl Lewis ar zoom mewn gwers Gymraeg. Cawsom wledd yn clywed amdani yn son am ei gyrfa a thrafod y nofel ‘Martha, Jac a Sianco’. Diolch yn fawr hefyd i Aneirin Karadog am ymuno yn rhithiol mewn gwers Gymraeg i fl.11 yn ddiweddar yn trafod ei gerdd ‘Gweld y Gorwel’ a sôn am fanteision astudio Cymraeg Safon Uwch.

Cynhaliwyd cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus y Rotari eleni yn rhithiol. Y tri a baratodd fideo ar gyfer y gystadleuaeth eleni oedd Jack Thomas o fl.12, Morgan Davies o fl.11 a Sion Thomas o fl.11. Teitl eu dadl oedd “Gwastraff arian yw Prifysgol yn 2020”.

Cymerodd Mirain Owen o fl.11 ran yng Ngŵyl Gerallt eleni a chyfrannu at banel o bobl ifanc yn trafod llenyddiaeth Gymraeg. Ysgrifennodd Mirain hefyd y gerdd hon yn ddiweddar fel cofnod o’r Cyfnod Clo.

Y Gofid Mawr

 

Deffro yn y bore a mwynhau’r dydd yn llwyr

Gorwedd yn y gwely o fore gwyn tan hwyr,

Gwrando ar gerddoriaeth a rapyrs cŵl a’u cri…

Daeth y Cyfnod Clo a rhyddid braf i mi.

 

Doedd dim arholiadau na bwyd o’r ffreutur chwaith

Aros o flaen Netfflics heb orfod gwneud dim gwaith,

Dim angen caniatad na chodi llaw i pî…

Daeth y Gofid Mawr a byd heb loes i mi.

 

Codi ganol pnawn i fwyta brecwast mawr

Wy a bacwn blasus dim ots beth oedd yr awr,

Mynd at lan y môr i syrffio ar y lli…

Daeth yr holl ynysu a bywyd llawn i mi.

 

Protest Black Lives Matter yn dod a’r pwnc yn nes,

Pobl ifanc Cymru yn agosau at Yes,

Neb yn gwisgo welis i Steddfod fwd a bri…

Daeth yr locdawn cyntaf a’r byd i’n lolfa ni.

 

Zoomio i Ddolgellau heb orfod adael tŷ,

Siarad bob un diwrnod am straeon hurt datcu,

Mynd am dro hyd afon, melltithio baw pob ci…

Daeth y cyfyngiadau a’r fro i’m golwg i.

 

Mynd i’r banc mewn mwgwd a neb yn holi pam

Neb yn gweiddi ‘stick ‘em up’ nac edrych arnai’n gam,

Golchi llaw bob munud, sdim germau arna i…

Daeth y cyfnod budr a glendid llwyr i ni!

 

Neb yn mynd ar wyliau a neb yn mynd i’r cwrdd,

Neb yn gwylio’r Elyrch a pawb yn tŷ rownd bwrdd,

Ac wedi’r cyfnod hyfryd o fisoedd braf di-ri…

Ysu am yr ysgol oedd fy hanes i!

 

Mirain Owen

 

Gobeithio y cewch gyfle i fwynhau ein gwasanaeth Nadolig rhithiol eleni, yn cynnwys darlleniadau Beiblaidd gan y Chweched, cerddi ysgafn wedi’u perfformio gan fl.7, a gwirfoddolwyr o fl.8 i 11 yn darllen cerddi. Dyma’r linc i chi wylio  https://youtu.be/IoHCiPzr0ow