DIWEDDARIAD I DDYCHWELYD AR DDECHRAU TYMOR Y GWANWYN


Gweler y neges isod gan Gyfarwyddwr Addysg Dros Dro Abertawe am y sefyllfa ddiweddaraf o ddychwelyd i’r ysgol ar gyfer Tymor y Gwanwyn.

Diweddariad ar Sefyllfa Dychwelyd i Ddysgu Wyneb i Wyneb Ysgolion Abertawe

Mi fydd holl ysgolion Abertawe yn anelu i ddychwelyd at ddysgu wyneb i wyneb o ddydd Llun Ionawr 11 yn hytrach nag Ionawr 6. Bydd oedi ar y dychweliad i ddysgu wyneb i wyneb er mwyn ystyried gwybodaeth ddiweddar, a ddisgwylir wythnos nesaf, ar Covid-19, gan gynnwys yr amrywiad newydd. Darperir dysgu ar lein gan ysgolion o ddydd Mercher Ionawr 6 a darperir gofal plant fesul ysgol i ddisgyblion bregus, os oes angen, yn ogystal â gofal plant i blant gweithwyr allweddol, os yn hanfodol, o ddydd Mercher Ionawr 6 ymlaen.  Bydd y sefyllfa’n cael ei adolygu ar Ionawr 6.

—————————————————————————————————————————————-

Felly, ni fydd disgyblion yn dychwelyd ar y 6ed a byddwn yn eich hysbysu fel rhieni am ein trefniadau dychwelyd o’r 11eg o Ionawr, cyn gynted ag y gallwn wythnos nesaf.

Roedd presenoldeb ein disgyblion yn eu gwersi ‘ar lein’ yn galonogol iawn cyn y gwyliau a byddwn yn ail ddechrau gyda’r gwersi yma ar fore ddydd Mercher y 6ed o Ionawr i bob disgybl.

Bydd gwasanaeth blwyddyn i bob disgybl ar ddydd Mercher am 08:40 a disgwylir i bob disgybl fod yn bresennol. Fel y gwyddoch erbyn nawr, bydd y disgyblion yn dilyn eu hamserlen arferol, gyda gwersi byw, cymaint â fydd yn bosib.

Byddwn yn parhau i wahodd rhai disgyblion i mewn dydd Mercher i gefnogi eu lles a byddwn yn darparu gwarchod argyfwng i ddisgyblion (blynyddoedd 7 ac 8) gweithwyr allweddol – cwblhewch yr holiadur yma.