DIWEDDARIAD AM GAU YSGOLION I DDISGYBLION A DYSGU O BELL


Neges bwysig i ddisgyblion a rhieni / gwarcheidwaid:

Mae’n bosib eich bod bellach yn ymwybodol o’r cyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg y bore ‘ma y bydd ysgolion yn aros ar gau i ddisgyblion tan o leiaf y 29ain o Ionawr, neu hyd at hanner tymor Chwefror os nad yw lefelau lledaenu’r firws yn lleihau yn ddigonol. Gweler y negeseuon isod:

Covid: Online learning in Wales to continue as schools stay shut – BBC News

https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/55580487

Yn sgìl hyn, mae Cymwysterau Cymru bellach wedi cyhoeddi y byddant yn canslo’r ffenestr asesiadau mewnol oedd wedi’u cynllunio i ddigwydd rhwng yr 22ain o Chwefror a’r 23ain o Ebrill. Gweler eu safwe am y neges:

https://www.qualificationswales.org/cymraeg/newyddion/?page=1&perpage=10&categories=&sortBy=byDate&fromDate=&toDate=&query=&publicationTypes=  

Byddwn yn parhau i gynnig gwasanaeth gwarchod argyfwng (dolen yma) a hefyd i gefnogi rhai disgyblion yn yr ysgol. Ein ffocws ni fydd parhau i ddysgu, drwy ddarparu gwersi o bell a gwaith ar lein, fel yr arfer bellach, a chefnogi lles ein disgyblion. Byddaf yn rhannu fwy o wybodaeth gyda chi maes o law, ond os oes unrhyw gwestiwn, neu gonsyrn gennych, plîs cysylltwch â ni i drafod, neu e-bostiwch: SwyddfaBrynTawe5@hwbcymru.net

,