Dydd Gŵyl Dewi


Dathlwyd Gwyl Dewi mewn ffordd ychydig yn wahanol eleni! Paratowyd Gwasanaeth Gwyl Dewi rhithiol gyda tua 25 o ddisgyblion yn cymryd rhan trwy ddarllen cerddi, cyflwyno ffeithiau am Dewi Sant a pherfformio sgetsh am hanes yr iaith. Dyma ddolen i’n Gwasanaeth Gwyl Dewi:
https://youtu.be/wBQraWVTj8Q
Yn ol ein harfer cynhaliwyd Seremoni Gadeirio, ond o bell eleni! Diolch i’r prif ddisgyblion am gyflwyno, i Arwen am ganu’r delyn, i Chloe a Daisy am gan y Cadeirio. Dewi Prysor oedd ein beirniad eleni. Llongyfarchiadau mawr i Owain James o fl.9 am ennill y gadair, i Nataya Lewis o fl.10 am ddod yn ail ac i Hanna-Non Cordingley am ddod yn drydydd. Llongyfarchiadau hefyd i’r holl fuddugwyr yng nghystadlaethau bl.7-13. Profiad rhyfedd iawn oedd ffilmio Owain yn cael ei gadeirio ar iard yr ysgol ac yna dangos y fideo i weddill yr ysgol ar ddydd Gwyl Dewi. Dyma ddolen i’n Seremoni Gadeirio rithiol
https://youtu.be/0gzU6cIXH3w