PWYSIG – RHIENI BLWYDDYN 10


Bore da. Ga i ddiolch yn y lle cyntaf i’r holl ddisgyblion sydd yn glynu at y disgwyliadau ynysu i Flwyddyn 10 ar hyn o bryd. Diolch hefyd i rieni disgyblion Blwyddyn 10 sydd yn sicrhau bod eich plentyn yn ynysu. Sylweddolwn pa mor anodd ac anghyfleus yw hyn, ond sylweddolwn hefyd bwysigrwydd pam mae osgoi lledaenu’r feirws mor bwysig, gyda’r niferoedd yn codi yn Abertawe yn ddyddiol.

Yn anffodus iawn, mae hi wedi dod i’r amlwg bod rhai o ddisgyblion Blwyddyn 10 Bryn Tawe wedi anwybyddu rheolau hunan ynysu Cofid. Rydym fel ysgol wedi derbyn gwybodaeth am ddisgyblion sydd wedi bod yn cymdeithasu y tu allan i’r ysgol, er eu bod wedi derbyn cyfarwyddid clir gan TTP drwy’r ysgol i aros adref er mwyn osgoi lledaenu’r feirws. Ga i apelio ar bob disgybl unwaith eto i ddilyn y rheolau allweddol yma er lles iechyd pob un sydd yn rhan o gymuned yr ysgol. Yn yr un modd, rwy’n apelio ar rieni’r disgyblion yma o Flwyddyn 10 i sicrhau bod eich plentyn yn dilyn y rheolau pwysig yma.

Os ydych am drafod y mater ymhellach, plîs cysylltwch gyda ni yn yr ysgol.