Llwyddiannau Diweddar


Llongyfarchiadau mawr i Cameron Jenkins am ddod yn ail yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Dafydd Rowlands eleni ac i Elisha Davies am ddod yn drydydd! Estynnwn ein llongyfarchiadau i Anest Williams o Ysgol Gŵyr a oedd yn fuddugol eleni. Diolch yn fawr i Mr John Evans am feirniadaeth gynhwysfawr a chanmoliaethus. Mae ein diolch yn fawr hefyd i’r pwyllgor am ddarparu’r cyfle unwaith eto eleni i’n pobl ifanc ac am drefnu seremoni wobrwyo rithiol hyfryd.

Paratôdd criw o fl.10 fideo ar y thema ‘Heddwch’ ar gyfer cystadleuaeth Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru https://youtu.be/UvNgAd1lpL0, ac fe gyflwynon ni ein fideo Neges Heddwch ac Ewyllys Da i gategori arall. Mewn un fideo, soniodd ein disgyblion am eu hawydd i gael byd lle mae pawb yn dangos cariad, yn parchu ei gilydd, lle mae cyfle cyfartal i bawb a heddwch ar draws y byd. Cawsom dair gwobr gyntaf am ein fideos a braf oedd cael ymuno mewn seremoni wobrwyo rithiol o Langollen. Gellir gweld fideos o ymateb ein disgyblion i’r newyddion da ar gyfrif trydar yr adran.