CANLYNIADAU TGAU


AT SYLW DISGYBLION BL. 11eg, A’U RIENI:

Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu llwyddiannau ein disgyblion ym mlwyddyn 11eg heddiw gan fydd canlyniadau TGAU yn cael eu dosbarthu ar fore Iau y 12fed o Awst. Bydd yr ysgol ar agor i ddisgyblion gasglu eu canlyniadau o 08:30 tan 12:00. Os oes unrhyw broblem neu gwestiwn gennych, cysylltwch gyda Mrs Rhian Davies, Swyddog Arholiadau’r ysgol, drwy e-bost: DaviesR390@hwbcymru.net

Dymuniadau gorau i chi gyd!