ASESIAD LLAFAR SAESNEG TGAU


At sylw rhieni a disgyblion blwyddyn 11:

Yn anffodus, ac oherwydd cyfyngiadau staffio o ganlyniad i sefyllfa COVID-19, bu rhaid gohirio’r asesiadau llafar Saesneg i flwyddyn 11 ar gyfer wythnos nesaf. Bydd yr asesiadau yma yn cael ei ad-drefnu ar gyfer yr wythnosau cyntaf ar ôl hanner tymor. Ymddiheuriadau ond fel nodwyd uchod, mae’r sefyllfa yma tu hwnt i reolaeth.

Unwaith eto, gwerthfawrogwn ymdrech ac ymroddiad ein disgyblion wrth baratoi tuag at y dasg yma. Diolch i chi am eich cydweithrediad a phe bai cwestiwn, plîs cysylltwch â minnau drwy rif ffôn yr ysgol neu e-bostio ShawC36@hwbcymru.net

Mr Chris Shaw (Pennaeth Cynorthwyol a Phennaeth yr Adran Saesneg)