Nosweithiau rieni – Opsiynau TGAU bl. 9 a Chynnydd Bl.8


Rhieni bl. 9:

Yn sgil gorfod cau heddiw am resymau Iechyd a Diogelwch, byddwn hefyd yn gohirio’r noson opsiynau TGAU i ddisgyblion a rhieni bl.9 heno (08.03.23). Rydym wedi ail drefnu’r noson ar gyfer nos Lun y 13.03.23 i ddechrau am 17:00 yn yr ysgol. Byddwn yn addasu’r amserlen a’i rannu gyda rieni a disgyblion yn y diwrnodau nesaf. Er mwyn gallu ei wirio o flaen llaw, mae’r llyfryn opsiynau yn barod wedi ei rannu yn ‘Team Blwyddyn 9’ ac ar ein safwe ar y ddolen yma: https://www.bryntawe.swansea.sch.uk/prospectus/year-9-options_cy.pdf

Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra unwaith eto, gan edrych ymlaen at eich croesawi i’r ysgol i drafod dewisiadau TGAU pwysig eich plentyn nos Lun nesaf.

Rhieni bl.8:

Yn sgil y newid i noson opsiynau blwyddyn 9 uchod, bydd rhaid i ni ohirio noson rhieni bl. 8 hyd at Nos Fawrth y 25ain o Ebrill rhwng 16:00 – 18:30. Bydd unrhyw apwyntiadau sydd wedi eu gwneud yn addas ar gyfer y dyddiad newydd, ond mae croeso i rieni eu newid os oes angen? Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra a diolch am bob cydweithrediad.