Neges bwysig i Rieni / Gwarcheidwaid


TREFNIADAU TRAFFIG AR Y SAFLE:

Diolch yn fawr iawn am gydweithrediad bron pob rhiant yn ein hymgyrch i sicrhau bod ein trefniadau gollwng a chasglu disgyblion o’r ysgol yn rhai diogel. Hoffwn dynnu eich sylw unwaith eto at y llythyr a rannwyd ar ddydd Llun 11.09.23 yn amlinellu’r trefniadau yma yn llawn: Cludiant disgyblion pob bore a phrynhawn 23-24

Hoffwn hefyd dynnu sylw nifer fach o rieni at ddau bwynt allweddol o’r trefniadau isod fel y gallwn gydweithio er lles diogelwch pob disgybl:

  1. Gofynnwn i rieni / gwarcheidwaid a holl ddefnyddwyr y safle i lynu at y disgwyliad o beidio â gyrru’n gyflymach na 10 m.y.a. ar safle’r ysgol (gan gynnwys yr heol i fyny at yr ysgol oddi ar Heol Gwyrosydd) ar bob adeg.
  2. Gofynnwn i bob rhiant ymatal rhag parcio ar y brif lon i’r ysgol, cyn y rhwystr. Mae symudiadau traffig (ceir yn symud yn ôl ac yn troi) yn yr ardal hon yn peri risg uwch i ddiogelwch ein disgyblion, wrth i lawer groesi’r lon wrth iddynt gerdded adref.

Diolch unwaith eto am gydweithrediad pob rhiant yn yr ymgyrch i sicrhau diogelwch pob disgybl wrth gyrraedd a gadael yr ysgol.

 

STREIC NASUWT: Dydd Mawrth 19.09.23 a Dydd Mercher 20.09.23:

Hoffwn eich hysbysu ni fydd unrhyw darfu i weithrediad yr ysgol yn unol â bwriad undeb NASUWT i weithredu’n ddiwydiannol ar y dyddiau uchod. Bydd yr ysgol ar agor i bob disgybl fel arfer.

Diolch

,