Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru


Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe yn falch o gymryd rhan yng nghynllun peilot Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru, ynghyd â 37 o ysgolion eraill yng Nghymru.

Nod Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru yw cefnogi pob ysgol a lleoliad sydd â dysgwyr 3 oed i 16 oed.

Bydd yn cefnogi datblygiad Addysg a Phrofiadau Byd Gwaith (Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith) pwrpasol a pherthnasol ar draws y cwricwlwm.

Mae Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru (GCGC) yn cyd-fynd â Cwricwlwm i Gymru. Bydd yn disodli Marc Gyrfa Cymru.

Mae gan GAGC dri cham, pob un â ffocws gwahanol.

  • Cam 1 – Arweinyddiaeth

Mae’r cam hwn yn ymwneud â llunio a chynnal yr ymrwymiad i arwain datblygiad Addysg a Phrofiadau Byd Gwaith.

  • Cam 2 – Datblygiad

Mae’r cam hwn yn ymwneud â gwireddu Addysg a Phrofiadau Byd Gwaith yn y cwricwlwm trwy ddysgu proffesiynol, ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac addysgu a dysgu effeithiol.

  • Cam 3 – Effaith

Mae’r cam hwn yn ymwneud ag arddangos effaith ym maes Addysg a Phrofiadau Byd Gwaith.

Bydd y cynllun peilot ar waith o fis Medi 2023 i 2026 a gofynnir i Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe gwblhau pob un o’r tri cham yn ystod yr amser hwn i ennill y wobr.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: Cynllun Peilot Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru | Gyrfa Cymru (llyw.cymru)

 

Image preview