Her Cymru 5


 

Mae pob nain a thaid neu fam-gu a thad-cu yn bwysig oherwydd..

Galwaf fy nhad-cu’n “bampi”. Ef sy’n edrych ar fy ôl i ar ddiwrnodau H.M.S a mynd a fi a fy nheulu allan am fwyd. Mae’n dda am drwsio fy nghyfrifiadur pan mae wedi torri ac wrth ei fodd yn siopa yn Lidl ac Aldi. Yn gyfrinachol, mae wrth ei fodd yn cynnig losin i fi ac anrhegion arbennig a gaf adeg y Nadolig. Un annwyl yw e wrth edrych ar fy ôl pan rwy’n sâl a gall wneud i mi chwerthin pan ydw i’n drist. Dyna pam mae “bampi” mor bwysig i fi.

Gan Aled E Bl.9