Mae pob Nain a Thaid neu Fam-gu a Thad-cu yn bwysig oherwydd….
nhw yw fy ail rieni i. Mae gen i a fy Nhad-cu atgofion di-ri i’w trysori.
Mas am de, ac mae Tad-cu’n penderfynu cael diferyn i yfed, a’r diferyn yn troi’n dipyn. Daw’r diwrnod i ben gyda Taid ar y bwrdd yn dawnsio!
Tad-cu wedyn sy’n gofyn imi fynd i Gaerdydd am ddiwrnod siopa, dro arall i’r parc lle mae Tad-cu ‘n trio defnyddio bwrdd sglefrio, ac yntau bron a chwympo ar ben y ci!
Rwy’n caru fy Nhad-cu.
Gan Megan J Bl.9