Her Cymru 5


 

Mae pob mam-gu a thad-cu yn bwysig oherwydd eu bod yn coginio bwyd ar eich cyfer. Nhw yw’r bobl rydych yn dibynnu arnynt a nhw yw’r bobl sy’n cytuno gyda phopeth yr ydych yn ei ddweud. Wrth i chi gerdded drwy’r drws maen nhw’n ymosod arnoch gydag arian, anrhegion a bwyd. Nhw yw’r bobl sy’n rhedeg y gwesty byddwch yn mynd iddo pan gewch chi lond bol ar eich teulu. Eich mam-gu a’ch tad-cu sy’n perswadio eich rhieni i brynu pethau cyffrous i chi- fel ci! Maen nhw wastad yna i chi, a nhw fydd eich arwyr am byth.

Ffion B