Her Cymru 5


 

Mae pob mam-gu a thad-cu yn bwysig oherwydd maen nhw yn rhannu eu diddordebau a’u hanes gyda chi. Mae fy nhad-cu yn bwysig oherwydd mae’n gyrru bysus hen iawn, sy’n cymryd llawer o sgil. Llysenw fy nhad-cu yw Peter perffaith oherwydd dydy e byth wedi crasio yn ystod ei holl yrfa o yrru bysus. Bu’n gyrru bysus am tua 40 mlynedd. Mae fy nhad-cu yn fy nifetha i llawer a hefyd yn fy nghefnogi. Mae e’n hoffi cerddoriaeth o’r 1950’au ac yn hoff iawn o ‘do opp’, a rydw i erbyn hyn yn hoffi’r gerddoriaeth hefyd. Dwi’n caru fy nhad-cu llawer, mae’n gwneud llawer drosta’ i.

Billy W Bl.9