Her Cymru 5


 

Mae pob nain a thaid neu fam-gu a thad-cu yn bwysig oherwydd… hebddyn nhw, byddai’ch teulu chi ddim yn bodoli fel y mae heddiw. Maen nhw’n mwynhau sbwylio eu hwyrion a gwneud llawer o bethau hwylus gyda chi. Mae gen i lawer o atgofion gyda fy mam-gu a thad-cu. Rwy’n cofio pan aethom ni i fferm ein ffrindiau. Rwy’n cofio treulio’r prynhawn yn chwarae tennis yn y cae cyn gwylio’r haul yn machlud gyda’n gilydd. Roedd yn ddiwrnod hwylus a byddaf yn cofio’r diwrnod am amser hir.

Gan Sarah D Bl.9