Y siocled


Ble mae e wedi mynd? Tybed pwy sydd wedi ei fwyta? Pwy bynnag yw e maen nhw mewn trwbl nawr! Rwy’n gwybod ei fod yn hyfryd ond gallen nhw fod wedi gofyn am ddarn! Dwyn fy siocled hyfryd, perffaith-ooo! Rwy’n grac nawr! Roedd fy mars bar mor felys â losin, a nawr mae fy siocled prydferth yn gorwedd ar ei ben ei hun yng nghanol bwrdd y gegin ar y plat gwyn, oer. Pan fyddaf yn darganfod pwy aeth a fy siocled hyfryd, brown, melys, mi ladda’ i nhw! Nawr ‘dw i am ddarganfod y lleidr hwn! Caitlin J a Megan O, Bl8