Her Cymru 6 (7W)


Help! Mae rhywun wedi bwyta fy nghoesau a breichiau! O na! Dw i’n cwympo i ddarnau! Dw i’n fach iawn erbyn hyn, ond yn falch bod fy ngorchudd yn y bin. Roedd e’n cosi fel llau pen! Pam nad ydyn nhw wedi fy mwyta i gyd? Dw i wedi cael digon o bobl yn ceisio fy rhannu i. Dw i’n gwybod fy mod yn flasus iawn. Dw i’n unig nawr fel blodyn mewn anialwch ac yn teimlo’n ddiflas! O! Mae’r plât yn oer o dan fy mhen-ôl! Hoffwn redeg i ffwrdd ond does gen i ddim coesau erbyn hyn! Help!

Gan 7W