Pam fi?


Pam taw dim ond fi sydd ar ôl? Ble mae’r darnau eraill wedi mynd? Rwy’n teimlo’n unig, unig iawn. Roedd popeth yn dawel ac yna clywais y drws blaen yn agor a daeth llawer o sŵn sgrechian a rhedodd pawb at y bwrdd lle rydw i ar blât. Yna roedd eiliad o ddwylo ym mhobman. Pam ddiflannodd y dwylo, dim ond fi oedd ar ôl ar y plât! Pam does neb wedi mynd a fi?

Gan Rhys Whatty 8A