Y frwydr!


Mae’r mars bar yn edrych yn unig ac yn llonydd. Mae’r briwsion yn edrych fel eu bod nhw’n mynd i ymosod ar y darn unrhyw eiliad. Y plât yw’r stadiwm lle fydd yr ymladd. Does dim ffrindiau gan y bar heblaw am y briwsion sy’n barod i ymosod arno. Bwrdd brown bras yn dal y plât gwyn, gwag. Y plât fel haul heulog ag un cwmwl arno. Mae’r briwsion yn mynd i fwyta ei gilydd os does neb yn glanhau’r plât. Yn sydyn mae cawr mawr yn bwyta bar bach brown. Ben E ac Iwan T