O na!


Mae un darn o siocled ar ôl. Pwy all ei gael? Mam? Dad? John? Casi y ci? Mae’r siocled yn eistedd yn stond ar y plât gwyn. Rhaid ei fod yn blasu’n hynod o fendigedig. Mae John yn mynd i godi’r darn olaf. Galla i ei glywed yn sgrechain yn uchel…”Tom, bwyta fi!” Ond wela’ i freichiau John yn amgylchynu’r plât. O na, mae’r demtasiwn yn ormod i mi! Rwy’n gweld John yn ei godi…Mae popeth yn digwydd yn araf. Ar unwaith rwy’n gweiddi, “naaaaaaaa!” gan neidio’n uchel! Glaniaf ar y siocled a’i ddinistrio. Rhydian a Rhys