Ry’n ni’n well heb fwlio!


Yn fy marn i mae bwlio yn ffordd i’r bwli deimlo’n fwy hyderus amdano ei hun wrth  wneud i eraill deimlo yn wael. Cefais i fy mwlio mewn ysgol arall a gwnaeth yr ysgol honno ddim helpu. Dydy bwlio ddim yn brofiad da i’w gael. Wrth i bobl fynd yn hŷn byddwch chi’n credu bydd y bwlio yn stopio, ond gall bwlio ddigwydd ar unrhyw adeg. Mae llawer o wahanol ffurfiau o fwlio ond gall unrhyw ffordd effeithio ar bobl yn wahanol. Dylen ni weithio gyda’n gilydd i stopio bwlio yn gyfan gwbl.

Charlotte, bl10