Ry’n ni’n well heb fwlio!


Bwlio, bwlio. Beth yw e? Peth hyll, rhywbeth sy’n effeithio ar bobl yn gorfforol ac emosiynol. Mae rhai pobl yn credu ei fod yn ddoniol ond dydyn nhw ddim yn gweld y niwed maen nhw’n ei wneud i’r person maen nhw’n ei fwlio. Mae pobl yn gallu cael bywyd gwael oherwydd bwlio, mae’n effeithio ar sut maen nhw’n teimlo ac yn gallu  effeithio ar eu haddysg nhw hefyd. Ry’n ni’n well heb fwlio, mae’r byd yn well heb fwlio. Tro nesaf rydych yn meddwl am fwlio rhywun meddyliwch pa fath o niwed rydych chi’n ei roi iddyn nhw bob dydd. 

Jaden