Ry’n ni’n well heb fwlio.


Ry’n ni’n well heb fwlio achos mae plant yn cael eu trin yn gas. Dydyn ni ddim yn gwybod pam mae bwlio yn digwydd ond rydyn yn gallu dyfalu e.e mae’r bwlis wedi cael plentyndod gwael neu eu bod wedi cael eu bwlio hefyd.

Cefais fy mwlio a dydy e ddim yn beth neis. Galwodd bobl enwau arna i,  wedi mynd yn fy mag ac estyn pethau heb eu dychwelyd. Ond y peth yw, ni sydd weithiau’n dechrau’r broblem yn y lle cyntaf e.e dweud rhywbeth neu ganu.

Dydy’r bwlio ddim yn mynd i ffwrdd yn gloi. Mae’r dioddefwr yn drist, crac, ofnus a swil.

Rebecca, bl10