Ry’n ni’n well heb fwlio


Ry’n ni’n well heb fwlio oherwydd nid yn unig ei fod yn achosi cleisiau a chreithiau, ac nid yn unig ei fod yn rhoi sylw i’r bwli, ond mae’n niweidio hunanhyder y dioddefwr. Gall teimlad o dristwch a methiant aros gyda chi am byth! Gwn ei bod hi’n anodd cyfaddef eich bod yn cael eich bwlio. Ond po fwyaf o bobl sy’n gwybod, y mwyaf o bobl sydd yn gallu helpu. Dyw e ddim yn deg i chi fyw eich holl fywyd yn teimlo’n unig. Dewch i ni ddod at ein gilydd nawr i daclo bwlio. Ry’n ni’n well hebddo!

Gan Megan J Bl.9