Mae geiriau’n gas
Mae pwnio’n boenus
Mae pobl yn bwlio
ac eraill yn gwylio.
Mae pobl yn dweud y daw pethau’n well
ond yn fy marn i, mae pethau wedi mynd yn rhy bell
Maen nhw’n galw enwau a chael sbri,
a hynny ar fy mhen i.
Pam ydyn nhw’n chwerthin arna i?
Dw i wedi cael digon ohonoch chi!
Mae athro’n gofyn “Beth sy’n bod?”
Ond dyw’r gwir ddim yn dod.
Geiriau cas
Pwnio poenus
Beth sydd nesaf?
Ai dyna’r tro diwethaf?
Gan Alisha Beavan Bl.8