Ry’n ni’n well heb fwlio


Dw i ar y llawr. Mae’r bwli yn chwerthin arnaf. Dw i methu dianc o’r cywilydd o fethu ag amddiffyn fy hun. Yn lle, dw i’n gorwedd ar y llawr yn cau fy llygaid. Mae’r bwli yn edrych arnaf gyda’i lygaid caled duon yn gwisgo ar ei wyneb seimllyd, gwên fawr o falchder am yr hyn a wnaeth. O lawr fan hyn, mae’n ymddangos pum gwaith mor fawr â fi. Edrycha ei ddwylo fel dwy garreg ymosodol. Ond nid oes gan y bwli…. hapusrwydd, ffrindiau a hunan-barch. Gan Sara Dafydd