Y Bwli
Cerdded i’r ysgol yn dal a chryf,
Fy mhŵer, fy hyder mor heintus â’r prif.
Plant fel morgrug o gwmpas fy nhraed,
Y siwmperi’n gwasgaru fel afon o waed.
Lleisiau bach pitw yn sibrwd o’m cwmpas.
Fi yw y brenin a hon yw fy nheyrnas.
Criw bach o filwyr yn dod ac yn mentro
Fel dail yn yr Hydref, pob un yn cwympo.
Cosbaf yn llym eu nonsens a’u dwli.
Fi yw y bos, fi yw y bwli
gan Ffion Davies