Y BWLI
Y bwli. Yr anghenfil.
Un crac. Un tywyll.
Does neb yn edrych tu ôl i’r mwgwd hyll
at y person sy’n ysu am wenau a heulwen.
Dim ond cariad sydd â’r gallu
I achub yr angel a ddisgynnodd o fri.
Peidiwch â gweiddi! Mae heddwch yn dawel.
Peidiwch â’u herlyn nhw i ffwrdd,
Mae tynerwch ymhlith ffrindiau.
A’r tro nesaf y gwelwch chi fwli,
Cofiwch, da chi, fod dagrau yn llechi tu ôl i’r mwgwd du.
Gan Rebeca Bassett