Bwlio
Yn erbyn wal y buarth,
Y wal y tu allan i’r dosbarth,
Gwelaf â’m llygaid fy hun
Y bwli yn gosod y braslun.
Y braslun sy’n brwsio lliwiau ofn.
Chwerthin cas y bwli.
‘Sdim ond un peth amdani
Crio cras babi
Y dioddefwr yn canu.
Gwaed coch sy’n llifo
I lawr ochr ei hwyneb, llipa.
Mwmian tawel ei chri
Yn ddrych i’w gwaed sy’n berwi
Hiraeth am ryddid
A’r gallu i erlid.
Y bwli sy’n sefyll yn dal,
Yn chwerthin ar y mwmial.
A’r dioddefwr sy’n mynnu dial.
Gan Nerys Williams