Bwlio
Edrycha arnaf i, yr un a lefodd bob dydd,
Yr un fu’n byw mewn ofn,
Yr un fu’n dioddef yn unig.
Fi yw’r ferch gyda’r boen yn ei llygaid
Yr un a eisteddodd ar ei phen ei hun,
Yr un a lefodd ar ei phen ei hun.
Edrycha arnaf i, yr un rwyt ti’n ei hofni a’i gwawdio,
Yr un rwyt ti’n ceisio’i dinistrio.
Rydw i’n ferch, yn union fel ti. Pam na fedri di fy ngweld i?
Edrycha arnaf i,
Yr un sy’n gweld cariad adref
Yr un sydd â rhieni’n pryderu a gofalu.
Edrych arnat ti
Yn chwerw, yn grac, yn drist.
Yr un sydd â’r casineb yn meddiannu dy wyneb.
A thra bo’ ti’n chwarae dy gêm ddrygionus
Edrycha arnaf i – yr un bodlon, caredig a hapus.
Fi yw’r ferch sy’n mynd i oroesi.
Fi yw’r ferch sy’n teimlo trueni drosot ti.
Lauren Egan