Ry’n ni’n well heb fwlio


Y BWLI 

Bob yw enw’r bachgen sy’n byw ar fy stryd,

Does ganddo fe ddim arian i brynu pethau drud.

Mae e’n gwisgo trainers Reebok a hen grys Adidas

O! Wir i chi! Mae e’n edrych fel llanast!

Dydy Bob ddim yn mynd i’r sinema,

Dydy e ddim yn mynd i’r dre’.

Does ganddo fe ddim arian i fynd i unrhyw le.

Mae e’n byw mewn tŷ bach tlawd gyda’i fam a’i chwaer,

Rwy’n ei weld e’n aml iawn yn syllu’n drist ar y gwair.

Ar gyfer ‘Dolig, ges i feic newydd sbon

Cafodd bawb tro cyflym arno – hyd yn oed John!

Ond pan ofynnodd Bob am ei dro ar y beic,

Chwerthynais yn gras a gweiddi “Ha! Ie, reit!”.

Wrth chwerthin a gwthio Bob i’r llawr

Sylwaf ar newid yn ei lygaid yn awr.

Mae ei goes yn llawn mwd a gwair a gwaed

Rheda mewn i ddweud mai fi sydd ar fai!

Ymhen pum munud, fe ddaw Bob yn ôl,

“Dim ond Bwli wyt ti, Carwyn! Bwli bach ffôl!”

Gan Lara Mc Neil