Eistedd mewn gwasanaeth


Mae’n ddydd Mawrth, 8:30, rydw i yn yr ysgol yn y gwasanaeth. Rydw i’n gwybod mai’r hyn fydd yn digwydd  ar ôl i Mr Bridgens orffen ei frawddeg fydd y byddwn yn canu yr emyn Calon Lân. Mae’n bwrw glaw ac mae’r neuadd yn dawel fel llygoden. Rydw i’n clywed y nodau o’r piano a mae pawb yn codi. Mae sŵn y canu yn swnio fel côr cymysg. Pryd mae’r gân wedi orffen mae pawb yn eistedd lawr, mae Mr Bridgens yn dechrau anfon ni mas fesul rhes, mae’n swnio fel byddin yn cerdded.

Rhys L, bl8