Gwrando ar yr eira


Eistedd yn y garafan yn gwrando ar yr eira yn cwmpo ar y to metal, mae’r eira yn dechrau gorchuddio pob ddarn o’r cae gwyrdd yn flanced gwyn, meddal. Rydw i eisiau rhedeg trwy’r cae, yn teimlo’r eira ar fy mysedd , llithro dros y rhew sydd yn cuddio o dan y flanced gwyn, feddal yna ond mae rhaid i fi aros i fy nheulu ddod nôl , galla i glywed mwy o eira yn pwno’r to dro ar ôl tro, mae’r pwysau yn drwm iawn , a’r to yn sgrechen  o dan y pwysau.

 

Leya, bl8