Y gaeaf


Cas yw’r oerfel pegynol sy’n cipio’r gwres crasboeth ac yn cloddio’i grafangau i mewn i graidd yr Hydref, ac yn plannu hadau peryglus y Gaeaf. Mae pob darn o wyrddni‘n cael ei orchuddio gan flanced wen o eira, ac mae pob plentyn yn clywed yr eira hudol yn crensian i lawr i’r ddaear ac yn troi i rew llithrig, wrth redeg tuag at y bryniau anferth. Mae to pob tŷ, siop, a charafán wedi diflannu o dan yr eira trwm ac mae pob stryd yn wag. Amser annymunol yw’r gaeaf, ond hefyd amser o gyfeillgarwch ac uno. Gaeaf. Am dymor!
 
Rhydian, Bl8