Gorwedd ar y glaswellt


O, dyma fi yn gorwedd ar y glaswellt oer yma, mae’n oer fel oergell. Rydw i wedi bod yma drwy’r nos. Fel arfer rwy’n ar silff ffenest, ac bydd y gwres wedi ei droi mor uchel â phosibl, ac fe fydd fel sawna, mae’n hyfryd. Ond na, mae’r hen dwpsen yna yn mynd â’r ci drewllyd yna mas i fynd am dro ac dyma fi yn cwmpo mas o’i phoced. Wel, mae tua 500 llathen o dir gwastraff, ac mae wedi bod yn rhewi dros nos. Ac rwy’n oer iawn, iawn. O wel, ble mae Bob pan mae ei eisiau fo.

Matthew Smyth