Y bwgan


Roedd allwedd yn gorwedd ar y gwair gwyrdd, trwchus. Yr allwedd i’r tŷ a godai ofn ar bawb. Yn y tŷ roedd bwgan heb drwyn na chlustiau. Collodd e nhw yn yr Ail Ryfel Byd oherwydd fod y Natsiaid wedi eu saethu. Ei drwyn a’i glustiau oedd hoff beth y bwgan, a hebddyn nhw roedd o’n teimlo’n hyll ac roedd e’n mwynhau codi ofn ar blant a oedd yn dod i mewn i’r tŷ er mwyn eu rhwystro rhag gweld ei wyneb hyll. Ond roedd y plant yn hoffi’r bwgan yma, roeddent yn credu fod ei wyneb yn brydferth.

Tyler, bl8