…yn gwbl ddirybudd…


Un dydd Gwener glawiog yn yr ysgol, roeddwn i’n edrych ar y cloc bach ar wal yr ystafell ddosbarth yn aros yn eiddgar i’r gloch ganu. Roedd deg munud hir ar ol. Bip bip bip- y gloch! Hwre! Rhedais allan o’r dosbarth ar frys. Gwibiais drwy’r coridorau ac allan i’r awyr iach. Sgipiais hyd y pafin ond yn gwbl ddirybudd, wrth groesi’r hewl, daeth car a’m bwrw. Rydw i nawr yn yr ysbyty a phob asgwrn yn boenus! Byddai’n well gen i fod nol yn yr ystafell ddosbarth!

Gan David Jenkins