…yn gwbl ddirybudd…


Roedd  hi’n bwrw hen wragedd a ffyn y tu allan i’r ffenest. Tywydd diflas ac roedd y gwaith hefyd yn ddiflas. Eistedd ar bwys fy nesg trwy’r dydd yn syllu ar y monitor am oriau. Es i Spar ar y ffordd adref i godi fy nghalon. Prynais far enfawr o Galaxy- fy hoff siocled. Cefais gwpanaid o de gyda’r hwyr ac ar ôl y newyddion, ymddangosodd rhifau’r Loteri Cenedlaethol. Yn sydyn, roedd y rhifau fel pe baent yn dawnsio! Sylweddolais fy mod yn enillydd! Curodd fy nghalon wrth syllu ar y chwe phêl liwgar. A fydd rhaid i mi syllu ar y monitor yn y gwaith byth eto?

Gan Nia Jones