Aros am eira!


Roedd hi tua 7 o’r gloch y nos ac roedd Jonny yn edrych drwy ei ffenestr ac yn gwylio’r cymylau. Roedd Jonny yn gobeithio am rywfaint o eira. Daeth mam Jonny lan.

“Wyt ti’n iawn Jonny bach?”

“Ydw mam,” meddai.

“Wel pam wyt ti’n edrych drwy’r ffenestr?”

“Rwy’n edrych am eira!”

“Naaaa, fydd hi ddim yn bwrw eira bachan!”

“wel dwi’n meddwl y bydd hi mam!”

“O wel, nos da, rwy’n mynd i’r gwely.”

“Nos da mam.” Arhosodd Jonny ar ei draed yn syllu drwy’r ffenestr am oriau.

Daeth y bore. Ac yn gwbl ddirybudd…roedd hi wedi bwrw eira!!

 

Matthew, Alisha, Hollie, Keiran, Ffion – Blwyddyn 9