Y goedwig


Cerddaf  drwy’r goedwig, teimlaf ddail o dan fy nhraed, gwynt cryf  yn chwythu drwy fy ngwallt. Dydw i ddim eisiau bod mas fan hyn ond mae’n rhaid i fi gael awyr iach. Teimlaf mor boeth am ddim rheswm, ni theimlais yn iawn am wthnosau ar ôl ei golli. Dywed pawb bod amser yn gymorth i anghofio ond dydy amser ddim wedi fy helpu, does ddim byd yn gallu. Cerddaf nawr, rhwystro pethau deithio trwy fy ymenydd. Mae cerdded heb feddwl yn helpu. Yn gwbl ddiybudd clywaf sgrech erchyll yn hedfan trwy’r goedwig, yn bownsio o’r coed. Rhaid I fi redeg nawr. Rhaid I fi fynd.

Leya, bl8